Mae Skaila Kanga yn enwog am ei gwaith ym myd y stiwdio recordio, ffilmiau a theledu ac ers pum mlynedd ar hugain bu’n unawdydd telyn ar gyfer Ensemble Nash, Academi ‘St Martin in the Fields’ ac yn fwy diweddar ar gyfer Chwaraewyr Mozart Llundain, sydd wedi dod â chanmoliaeth mawr iddi am ei pherfformiadau siambr a recordiadau dros y byd i gyd. Ym mis Chwefror 2003 daeth Skaila, sydd eisioes yn bennaeth ar stiwdio telyn Academi Cerddoriaeth Frenhinol Llundain, yn Athro ym Mhrifysgol Llundain.

Edward Witsenburg
yw un o delynorion enwocaf yr Iseldiroedd. Mae ei yrfa’n ymestyn dros hanner canrif ac mae’n parhau traddodiad y delynores enwog o’r Iseldiroedd, Rosa Spier, o ganu’r delyn yn llawn mynegiant. Wedi deng mlynedd yn canu’r delyn mewn sawl cerddorfa symffoni, canolbwyntiodd ar yrfa o ddysgu’r delyn ac hefyd i ddilyn gyrfa fel unawdydd. Bu’n aelod o staff dysgu Conservatoire Brenhinol yr Hague am ddeugain mlynedd. Fe’i apwyntiwyd yn Athro ym Mhrifysgol Mozarteum Salzburg pedair mlynedd ar ddeg yn ôl. Y mae mawr alw amdano fel athro yn rhyngwladol ac mae wedi cynnal sawl cwrs meistr a chyrsiau dros y byd i gyd. Mae wedi recordio sawl LP a CD gan ddefnyddio offerynnau o’i gasgliad preifat helaeth ac yr oedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Telyn yr Iseldiroedd, a gadeiriodd am chwe mlynedd. Cafodd Edward Witsenberg ei urddo’n farchog Oranje-Nassau am ei wasanaeth i gerddoriaeth ac, yn enwedig, i’r delyn.

Ganed Robert Swain yng Nghaerdydd ym 1947. Astudiodd gyfansoddi gyda Alun Hoddinott a dadansoddi cerddoriaeth yr 20fed ganrif gyda Andrew Whittal yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Bu’n athro ac yn ddarlithydd yn ystod ei yrfa cyn cael ei apwyntio’n Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg ac Hyfforddiant (Cymru) ym 1989. Er i ran fwyaf o’i yrfa ymwneud â cherddoriaeth mewn addysg, mae wedi bod yn weithgar iawn fel cyfansoddwr, trefnydd a pherfformiwr profiadol a thalentog. Ymysg y Comisiynau yn y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf y mae Comisiwn Blwyddyn Cerddoriaeth Ewropeaidd y BBC â berfformiwyd gan BBC Cymru yng Ngwyl Ddewi BBC Cymru, Gwyl Abertawe, Gwyl y Fro yn ogystal â nifer o leoliadau yn Llundain. Mae ei weithiau wedi cael eu perfformio gan artistiaid megis Pedwarawd Llinynnol Dartington ac Endellion, ‘The Fires of London’ (dan arweiniad Peter Maxwell Davies), Cerddorfa Symffoni BBC Cymru, Ensemble 20fed Ganrif Llundain a Chonsort Pres Cymru. Darlledwyd bron pob un o’r perfformiadau cyntaf ar Radio 3 y BBC.

Ganed Valerie Aldrich-Smith ym Mhowys. Derbyniodd Radd B.Mus o Brifysgol Birmingham a gorffennodd ei hastudiaethau telyn gyda Ann Griffiths yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda Diploma Uwch mewn perfformio. Mae wedi bod yn brif delynores Cerddorfa Cenedlaethol BBC Cymru ers ugain mlynedd, yn ogystal â bod yn diwtor rheolaidd ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Astudiodd Katey Thomas yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ac mae hi wedi chwarae gyda nifer fawr o gerddorfeydd proffesiynol Prydain. Mae hi’n chwarae’n rheolaidd ar gyfer Cerddorfa Symffoni’r BBC, Opera Garsington ac Opera Teithiol Glyndebourne.

Daw Gillian Green o Ogledd Cymru a hi oedd un o fyfyrwyr cerddoriaeth cyntaf Ysgol Gerdd ‘Chetham’s’ ym Manceinion. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Nholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn ogystal â pherfformio, mae hi wedi hyfforddi llawer o delynorion ifanc ac amryddawn ac mae llawer ohonynt wedi ennill prif wobrau mewn gwyliau cerddoriaeth cenedlaethol. Mae Gill yn cyd-gyfarwyddo Telynau Morgannwg.

Ganed Katherine Thomas ym Mhontypridd, De Cymru. Dechreuodd ddysgu’r delyn gyda Alwena Roberts ac yna Meinir Heulyn, cyn parhau gyda David Watkins yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall, Llundain. Fel ennillydd sawl gwobr ac ysgoloriaeth, yn cynnwys Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Ysgoloriaeth Goffàu Nansi Richards, mae Katherine bellach yn delynores llawrydd prysur ac mae hi’n perfformio’n aml gyda Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Ganed Tony Bremner yn Sydney ym 1939. Astudiodd y piano yn Conservatoire yr NSW cyn symud i Lundain ym 1961. Ym 1968 ymunodd â thenoriaid côr Glyndebourne ac bu yno am ddeng mlynedd, tan iddo ddod yn uwchdenor ar ôl dirprwyo James Bowman yn Covent Garden. Yn 2000, enillodd ei waith ‘Three Divine Poems’ John Donne ar gyfer côr a phiano wobr Cyfansoddwr y Flwyddyn Gregynog. Mae e wedi arwain recordiadau newydd ar gyfer sgôrau ffim clasurol, gan gynnwys ‘Lawrence of Arabia’ a ‘The Big Country’ gyda Cherddorfa’r Philarmonia, a ‘Citizen Kane’ a ‘The Magnificent Amberson’ gyda Philharmonic Awstralia. Cyhoeddwyd ei dri sgôr ffilm ac ‘In the Shrubbery’.

Dechreuodd Alison Martin ganu’r delyn yng Ngholeg Merched Malvern ac yna aeth ymlaen i astudio cyfeilio piano a’r delyn. Ers 1984 mae hi’n brif delynores cerddorfa Opera Cenedlaethol Lloegr a phrif delynores gwadd yn Nhy Opera Sydney, yn ogystal â rhan fwyaf o gerddorfeydd Llundain. Dechreuodd drefnu pan yn chwarae cerddoriaeth gefndir tra’n fyfyrwraig (i’w difyrru ei hun yn ogystal ag eraill) gyda repertoire sy’n amrywio o Stevie Wonder i Mozart.