Catrin Finch CF47
Gwyl Jazz Aberhonddu - Dydd Iau 9fed o Awst 2007
I archebu tocyn, ffoniwch 01874 611622
Eleanor Turner yn ennill Cystadleuaeth Telyn Ewropeaidd Caerdydd
Enillodd Eleanor, sy'n 24 oed, gylch Proffesiynol Cystadleuaeth Telyn Ewropeaidd Caerdydd yn erbyn pedair telynores arall o Rwsia, yr Almaen a Korea. Enillodd wobr William Mathias hefyd. Y wobr ar gyfer y gylch hon oedd Telyn Gyngerdd gan Salvi.
Ar ôl cystadlu'n erbyn dros 100 o delynorion o dros 17 o wledydd gwahanol, enillodd dwy ferch o Rwsia wobrau'r cylch Iau a'r cylch Hyn. Enillodd y ferch bymtheg oed, Maria Mikhailovskaya, y cylch Iau ac enillodd Elizabeta Bushcova, merch 19 oed o Moscow, y cylch Hyn.