"Meistroli Techneg Canu'r Delyn"![]() Fel yr ysgrifenna Kathryn Rees yn ei rhagymadrodd i’r llyfr: “Dechreuodd fy nhaith ar drywydd datblygu sylfaen technegol da yn hwyrach yn fy hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn dechrau fy ngradd mewn conservatoire, a than y pwynt hynny doeddwn heb sylweddoli pwysigrwydd techneg gadarn. Felly, yn sydyn iawn, roeddwn ar gwrs gradd oedd yn mynnu ar yr egwyddorion sylfaenol hyn. O ganlyniad, sylweddolais yn eithaf cyflym bod y newidiadau yn fy chwarae yn trawsnewid fy sain a rhwyddineb fy mherfformio mewn ffordd ddramatig." Mae’r tiwtor newydd hwn i’r delyn wedi’i ysgrifennu gan Kathryn Rees, a gafodd ei hapwyntio yn 2022 yn Bennaeth Adran y Delyn, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Kathryn yn delynores amryddawn ac yn athrawes wych sydd yn sicrhau seiliau technegol cadarn i bob un o’i disgyblion. Fel y dywed yn y bennod gyntaf: “Mae’n syniad da i wirio’r egwyddorion mwyaf sylfaenol yn fanwl, gan ddechrau gyda’r ffordd yr ydych yn eistedd a dal eich hun wrth y delyn. Mae’n hawdd datblygu arferion anghywir yn anfwriadol, ac o ganlyniad amharu ar eich datblygiad a’ch sain." Wedi’i argymell gan Skaila Kanga, mae’r llyfr hwn yn trin hanfodion canu’r delyno’r camau cyntaf hyd at dechnegau uwchraddol - ac felly gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i athrawon (ac efallai hefyd i riant!), gan arwain y myfyriwr i ddatblygu chwarae cadarn fydd yn arwain at sain brydferth a chwarae deallus yn llawn mynegiant. Mae’r llyfr yn cynnwys 27 o ymarferiadau a 9 Etude. Intermediate to advanced level. Yma gellir lawrlwytho yr holl dudalennau rhagarweiniol.
For: Pedal or lever harp
|
|
|
Ymarferiad 1Composer: Kathryn Rees |
|
|
|
|
Ymarferiad 5Composer: Kathryn Rees |
|
|
|
|
Ymarferiad 11Composer: Kathryn Rees |
|
|
|
|
Etude Rhif 1Composer: Kathryn Rees |
|
|
|
|
Etude Rhif 4Composer: Kathryn Rees |
|
|
|
|
Etude Rhif 6Composer: Kathryn Rees |
|
|
| Part of the ABRSM syllabus | mp3 |

